BREEAM yw Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu. Mae’r dull hwn yn cael ei ddefnyddio i fesur perfformiad amgylcheddol adeilad mewn 8 prif faes. Rhoddir credydau ym mhob adran, a rhoddir gradd i’r adeilad sy’n amrywio o ‘llwyddiannus’ i ‘eithriadol’. Y bwriad yw darparu adeilad sy’n effeithiol o ran ynni ac sy’n cael effaith fechan ar ei amgylchedd, ond yn ogystal â hynny, sy’n lle mae pobl yn dymuno byw neu weithio ynddo.





