Polisi Cyllun Newydd Cymru
Polisi Cynllunio Newydd i Gymru (o Ddatganiad Polisi Cynllunio Interim Gweinidogaethol 01/2009) I symud tuag at adeiladau mwy cynaliadwy a charbon sero yn Nghymru mae Llywodraeth y Cynulliad yn disgwyl y byddir yn cwrdd â’r safonau canlynol:
• Ceisiadau am 5 neu fwy o anheddau a dderbyniwyd ar 1 Medi 2009 neu wedi hynny i gwrdd â gofynion y Cod ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy Lefel 3 ac i gael 6 chredyd o dan issue Ene 1 – Cyfradd Allyriant Anheddau
• Ceisiadau am 1 neu fwy o anheddau a dderbyniwyd ar 1 Medi 2010 neu wedi hynny i gwrdd â gofynion y Cod ar gyfer Anheddau Cynaliadwy Lefel 3 ac i gael 6 chredyd o dan issue Ene 1 – Cyfradd Allyriant Anheddau.
• Ceisiadau a dderbyniwyd ar 1 Medi 2009 neu’n dilyn hynny, am ddatblygiad dibreswyl naill ai gydag arwynebedd llawr o 1,000m² neu ragor, neu ar safle un hectar neu ragor, i gwrdd â safon ‘Da iawn’ Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREEAM), a chyflawni’r credydau gorfodol i gael gradd ‘Ardderchog’ dan Ene – 1 Lleihau allyriadau CO2



